Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Trosolwg

Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gael i bob Cynghorydd Cyngor Sirol neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Cymru sy’n cael y cynnig i fod yn aelodau o’r Cynllun o dan gynllun lwfansau eu cyngor ac sy’n 75 oed neu iau. 

Mae’r CPLlL yn Gynllun diogel oherwydd bod y buddion wedi eu gwarantu o dan y gyfraith. Mae’r buddion y byddwch yn eu derbyn pan fyddwch yn ymddeol yn seiliedig ar y nifer o flynyddoedd eich bod yn aelod o’r Cynllun a’ch cyflog cyfartalog fel cynghorydd. Nid yw’r buddion yn dibynnu ar brisiau cyfranddaliadau ac nid ydynt yn cael eu heffeithio gan amrywiadau yn y farchnad stoc.


 

Sut rwy’n ymuno â’r CPLlL?

Eich penderfyniad chi yw ymuno neu beidio, er, rhaid i chi fod yn 75 oed neu iau. Bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Ymuno i ymuno â’r cynllun (sydd ar gael gan yr Adran Gyflogres), a dangos eich tystysgrif geni wreiddiol i ni.

 Dylech chi hefyd lenwi Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth hefyd. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i chi enwi buddiolwyr a fyddai’n cael cyfandaliad grant marwolaeth pe byddech chi’n marw.

I gael Ffurflen Ymuno, cliciwch yma 

I gael ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth, cliciwch yma

Oes modd i mi ymuno os ydw i’n talu i mewn i bensiwn arall yn barod?

Oes – fe gewch chi dalu i mewn i gynifer o wahanol gynlluniau pensiwn ag y mynnoch. Gallwch dalu hyd at 100% o’ch enillion trethadwy mewn unrhyw un flwyddyn dreth (neu £3600 os yn fwy) i mewn i unrhyw nifer o drefniadau pensiwn o’ch dewis a bod yn gymwys i gael gostyngiad ar dreth. 

Beth rwy’n ei dalu?

Rydych yn talu 6% o’ch lwfansau1 fel cynghorydd i mewn i’r CPLlL. Os ydych yn talu treth, byddwch yn cael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau pan fyddant yn cael eu didynnu o’ch lwfansau. Bydd eich cyngor yn talu gweddill y gost o ddarparu’ch buddion CPLlL.

Beth yw’r buddion?

  • Yswiriant bywyd o’r funud rydych yn ymuno, gyda chyfandaliad dwywaith eich cyfartaledd cyflog gyrfa yn daladwy os ydych yn marw mewn gwasanaeth.
  •  Yswiriant ar gyfer eich teulu gyda phensiwn i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil2 a phlant cymwys petaech yn marw.
  •  Buddion Ymddeol ar ôl 3 mis o aelodaeth:
  • Gallwch ymddeol o’ch swydd a thynnu eich pensiwn pan fyddwch yn 603 oed neu’n hŷn, er mai oedran arferol y Cynllun yw 65. Mae hefyd yn bosibl i ymddeol pan fyddwch yn 50 oed a chael eich buddion yn syth, ar yr amod bod eich cyngor yn caniatáu hyn.
  •  Mae buddion uniongyrchol yn daladwy beth bynnag yw eich oed os oes rhaid i chi ymddeol o achos salwch parhaol.
  •  Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch edrych ymlaen at:
  • Gyfandaliad di-dreth, a
  • Phensiwn am oes sy’n cynyddu gyda chostau byw

Sut y cyfrifir buddion?

Mae eich pensiwn ymddeol CPLlL pan fyddwch yn ymddeol yn cael ei gyfrifo fel 1/80fed o gyfartaledd eich tâl gyrfa am bob blwyddyn o’ch aelodaeth o CPLlL h.y.

Pensiwn blynyddol = Aelodaeth yn y CPLlL x Cyfartaledd Tâl Gyrfa
                                                                     80

Yn ogystal, byddwch yn cael cyfandaliad tair gwaith y swm hwnnw h.y.

Cyfandaliad = 3 x Pensiwn Blynyddol

 Os ydych chi’n dymuno, fe gewch chi hepgor rhan o’ch pensiwn pan fyddwch yn tynnu eich buddion er mwyn derbyn cyfandaliad uwch. Gellir cymryd hyd at 25% gwerth cyfalaf eich buddion pensiwn fel cyfandaliad. Byddwch yn derbyn £12 o gyfandaliad am bob £1 rydych yn ei throsi.

Beth yw cyfartaledd tâl gyrfa?

Dyma’ch lwfansau1 fel cynghorydd am bob blwyddyn neu ran o flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth sy’n cynyddu (heblaw am dâl y flwyddyn derfynol) gan y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu rhwng diwedd y flwyddyn berthnasol a diwedd y mis eich bod yn gadael y Cynllun.

 Mae cyfanswm y tâl a ail-brisir bob blwyddyn yna’n cael ei rannu gan gyfanswm y blynyddoedd a rhan o flynyddoedd rydych wedi bod yn aelod o’r CPLlL i gyfrifo cyfartaledd tâl gyrfa. Mae’n cael ei ddefnyddio pan gyfrifir eich buddion CPLlL.

Ga i drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i mewn i CPLlL?

Chewch chi ddim trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i mewn i CPLlL o gynllun pensiwn arall, cynllun pensiwn personol, cronfa CPLlL arall neu o aelodaeth o CPLlL fel gweithiwr. Os oes gennych hawliau pensiwn CPLlL o gyfnod blaenorol  fel cynghorydd yn yr un Gronfa CPLlL, gallwch eu hymuno â’ch aelodaeth bresennol fel cynghorydd ond eich bod yn gwneud o fewn 12 mis o ailymuno â’r Cynllun, neu am gyfnod hwy petai eich cyngor yn caniatáu hynny.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn gadael cyn ymddeol?

Os oes gennych o leiaf 3 mis o aelodaeth a’ch bod yn gadael cyn bod gennych yr hawl i daliad uniongyrchol o’ch buddion, bydd y taliad yn cael ei ohirio, fel arfer tan eich bod yn 65 oed. Mae’n bosibl y gallech drosglwyddo eich buddion CPLlL i gynllun pensiwn arall, er na allwch eu trosglwyddo i Gronfa CPLlL arall neu eu hymuno ag unrhyw aelodaeth CPLlL y gallech ymuno â hi fel gweithiwr.

Os oes gennych lai na 3 mis o aelodaeth, mae’n bosibl y gallech hawlio eich cyfraniadau heb dreth.

  1. Yng Nghymru dyma eich lwfans sylfaenol a chyfrifoldeb arbennig. Nid yw’n cynnwys unrhyw lwfans cynhalwyr (gofalwyr) dibynyddion, lwfans teithio a chynhaliaeth neu lwfans cyfetholedigion.
  2. Mae partneriaeth sifil yn berthynas rhwng dau unigolyn o’r un rhyw (“partneriaid sifil”) sy’n cael ei ffurfio pan fyddant yn cofrestru fel partneriaid sifil i’w gilydd.
  3. Bydd buddion sy’n daladwy cyn 65 oed yn cael eu talu ar gyfradd ostyngedig.

Ga i dalu mwy i wella fy muddion pensiwn?

Cewch gynyddu eich buddion wrth dalu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY). Hefyd, mae’n bosibl y gallech dalu cyfraniadau i mewn i gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn rhan ddeiliad.

Mae Canllaw Cynllun ar gael wrth glicio yma neu wrth gysylltu â’r Ddesg Gymorth Pensiynau ar 01443 680611.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Cynllun Pensiwn y Cynghorydd ar wefan yr Aelod o'r CPLlL trwy glicio yma.