Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyfrifiannell Lwfans Oes

Beth yw'r Lwfans Oes?

Y Lwfans Oes yw cyfanswm gwerth yr holl fuddion pensiwn y mae modd i unigolyn eu cael heb sbarduno tâl treth gormodol ar ôl ymddeol.  Pan gaiff ei dalu, os yw gwerth buddion pensiwn unigolyn  (heb gynnwys unrhyw fuddion Pensiwn y Wladwriaeth neu bensiwn Goroeswr) yn fwy na'r Lwfans Oes, bydd rhaid i'r unigolyn hwnnw dalu treth ar y buddion gormodol, ar gyfradd o 25% ar fuddion pensiwn gormodol a 55% ar unrhyw gyfandaliad gormodol.  Mae'r Lwfans Oes yn cael ei bennu gan y Trysorlys ac ar hyn o bryd £1,073,100 (2020/21) yw'r swm yma.   

Mae'r Lwfans Oes yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn a allai fod gan unigolyn ym mhob trefniant pensiwn sydd wedi'i gofrestru ar gyfer treth ac nid o dan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn unig.

Bwriad y gyfrifiannell yma yw rhoi brasamcan o'ch buddion pensiwn, yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n ei nodi. Mae'n cyfrifo'ch buddion pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (‘LGPS’) presennol yn unig a dyw e ddim yn cymryd i ystyriaeth unrhyw drefniadau pensiwn sydd un ai'n weithredol neu sy'n cael eu talu ar hyn o bryd.

Survivor’s Pension should be ignored for the purpose of this calculation. To accurately calculate your used Lifetime Allowance percentage, please contact the Pensions Helpdesk.

Your benefits

Ymwadiad
Efallai na fydd y rhagdybiaethau sy'n cael eu gwneud yn adlewyrchu canran y Lwfans Oes rydych chi'n gymwys ar ei chyfer oherwydd bydd hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau. Os oes unrhyw wrthdaro rhwng yr wybodaeth ar y wefan yma a Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rheoliadau'r cynllun fydd yn berthnasol.

Fydd Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf ddim yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw golled uniongyrchol neu ganlyniadol, ariannol neu fel arall, difrod neu anghyfleustra, neu unrhyw rwymedigaeth neu ddyled arall sy'n cael ei hachosi gan ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y gyfrifiannell yma.