A siarad yn gyffredinol, mae'n bosibl trosglwyddo buddion o gynllun pensiwn arall.
Pan fyddwch chi'n ymuno â'r LGPS, byddwch chi'n derbyn ffurflen sy'n gofyn am fanylion cynlluniau pensiwn eraill a ph'un ai'ch bod chi eisiau meddwl am ymchwilio i'r posibilrwydd o drosglwyddo'r buddion hynny i'r LGPS. Os byddwch chi eisiau trosglwyddo i'r Cynllun, mae rhaid i chi roi gwybod cyn pen 12 mis o ymuno ag e. Byddwn ni'n rhoi dyfynbris o faint bydd y trosglwyddiad yn rhoi i chi yn rhan o'r Cynllun. Chi piau'r penderfyniad p'un ai fwrw ymlaen neu beidio.
Da o beth yw cael cyngor ariannol annibynnol cyn bwrw ymlaen, er mwyn sicrhau bod hynny o fudd ichi.
Hoffech chi ragor o wybodaeth? Darllenwch y ffeithlen Trosglwyddo'ch Buddion neu gysylltu â'r Gronfa Bensiwn.
Os ydych chi o'r farn bod gyda chi fuddion pensiwn o weithle neu gynllun pensiwn personol blaenorol a dydych chi ddim yn gwybod ble maen nhw'n cael eu cadw, mae modd i chi ymweld â www.gov.uk/find-pension-contact-details i ddod o hyd i fanylion cyswllt y sefydliad perthnasol.