Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Faint bydda i'n ei dalu?

Mae’ch cyfradd gyfrannu yn seiliedig ar y tâl pensiynadwy rydych chi’n ei dderbyn.
Eich cyflogwr sy’n gyfrifol am bennu’ch cyfradd gyfrannu.

Mae’r gyfradd rydych chi’n ei thalu yn dibynnu ar eich band cyflog:

2024/2025

Cyflog Gros

Cyfradd Gyfrannu'r Prif Gynllun

Cyfradd Gyfrannu Opsiwn 50/50

£0 - £17,600

5.5%

2.75%

£17,601 to £27,600

5.8%

2.90%

£27,601 to £44,900

6.5%

3.25%

£44,901 to £56,800

6.8%

3.40%

£56,801 to £79,700

8.5%

4.25% 

£79,701 to £112,900

9.9%

4.95% 

£112,901 to £133,100

10.5%

5.25% 

£133,101 to £199,700

  11.4% 5.70% 
 Mwy na £199,701   12.5% 6.25%

Os ydych chi’n gweithio’n rhan amser ac roeddech chi’n aelod o’r CPLlL cyn Ebrill 2014, yna, byddai’ch cyfradd gyfrannu wedi’i seilio ar eich cyflog amser llawn cyfatebol. Ar ôl Ebrill 2014, mae’ch cyfradd yn cael ei phennu gan eich cyflog blynyddol gwirioneddol.

Os ydych chi’n talu treth, bydd y gost i chi yn llai oherwydd eich bod chi’n cael gostyngiad treth ar y cyfraniadau rydych chi’n eu talu i’r cynllun.