Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Absenoldeb wedi'i awdurdodi

Efallai y byddwch yn absennol o’r gwaith am gyfnod. Gall hyn effeithio ar eich buddion pensiwn mewn gwahanol ffyrdd.

Absenoldeb wedi’i Awdurdodi

Os yw’ch cyflogwr wedi caniatáu i chi gael cyfnod o absenoldeb di-dâl, yna  fyddwch chi ddim wedi cronni unrhyw fuddion pensiwn yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd hi’n bosibl i chi brynu’n ôl unrhyw bensiwn rydych chi wedi’i ‘golli’ drwy godi Contract Pensiwn Ychwanegol (CPY). Dylai’ch cyflogwr roi’r wybodaeth yma i chi ar ôl i chi ddychwelyd i’r gwaith.

Cyfnodau Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu

Yn ystod cyfnodau o gyfnodau mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, byddwch chi’n parhau i gronni’r pensiwn ar eich Cyflog Pensiynadwy Tybiedig (mae hyn oddeutu’r cyflog y byddech chi wedi’i gael pe byddech chi wedi bod yn y gwaith).
Am unrhyw gyfnodau mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu, bydd modd i chi brynu’n ôl unrhyw bensiwn ‘coll’ drwy godi CPY.

Os, yn ystod y 30 diwrnod cyntaf, yn dilyn dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb diawdurdod, os ydych chi’n dewis codi CPY, bydd y gost yn cael ei rhannu - 1/3 i chi, a 2/3 i’ch cyflogwr. Os byddwch chi’n dewis codi CPY ar ôl y 30 diwrnod cyntaf, bydd rhaid i chi dalu’r gost lawn pan fyddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith.

Gwasanaeth Rheithgor

Os na fyddwch chi’n cael unrhyw gyflog tra rydych chi ar wasanaeth rheithgor, bydd modd i chi godi CPY er mwyn prynu’n ôl unrhyw bensiwn coll. Bydd angen i chi siarad â’ch cyflogwr am hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y ffeithlenni Absenoldeb a Mamolaeth o dan e-Ffurflenni a Gwybodaeth

.