Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pa fuddion bydda i'n eu cael?

Mae sut mae'ch pensiwn yn cael ei gyfrifo yn dibynnu ar ba bryd yr ymunoch chi â'r cynllun – cyn Ebrill 2014, roedd y cynllun yn gynllun cyflog terfynol, ac ar ôl hynny, newidiodd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i fod yn gynllun 'Cyfartaledd cyflog gyrfa wedi'i adbrisio'.

Os oeddech chi'n aelod o'r cynllun cyn Ebrill 2008, roedd eich buddion yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:

1/80 x gwasanaeth x cyflog

Enghraifft – Os oedd eich cyflog yn £20,000 ac roeddech chi wedi bod yn rhan o’r cynllun am 10 mlynedd cyn Ebrill 2008, yna, byddai'ch pensiwn fel a ganlyn: 1/80 x 10 x £20,000 = £2,500 y flwyddyn.

Bydd hawl gyda chi hefyd i gael cyfandaliad awtomatig wedi'i gyfrifo fel a ganlyn: 3/80 x gwasanaeth x cyflog.

Gan ddefnyddio'r ffigyrau yn yr enghraifft uchod, byddai'r arian yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn: 3/80 x 10 x 20,000 = £7,500.

Os oeddech chi'n aelod o'r cynllun rhwng Ebrill 2008 ac Ebrill 2014, bydd eich buddion yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:

1/60 x gwasanaeth x cyflog

Enghraifft – Os oedd eich cyflog yn £20,000 ac roeddech chi wedi bod yn rhan o’r cynllun am 6 mlynedd, yna, byddai'ch pensiwn fel a ganlyn: 1/60 x 6  x £20,000 = £2,000 y flwyddyn.

Does dim hawl awtomatig i gyfandaliad am wasanaeth yn y cynllun ar ôl Ebrill 2008 ond gallwch chi, fodd bynnag, gyfnewid rhan o'ch pensiwn blynyddol am swm untro di-dreth. Bydd modd i chi gymryd 25% o werth cyfalaf eich buddion pensiwn fel cyfandaliad. Am bob £1 o bensiwn rydych chi'n ei hildio, byddwch chi'n cael cyfandaliad o £12.

Dyma ddiffiniadau gwasanaeth a chyflog am gyfnodau o aelodaeth cyn Ebrill 2014:

Gwasanaeth= 

Hyd y cyfnod rydych chi wedi bod yn y cynllun hyd at 31 Mawrth 2008. Mae cyfnodau o wasanaeth rhan-amser yn cael eu cyfrifo pro rata, er enghraifft, os 37 awr yr wythnos yw oriau amser llawn eich swydd, ac rydych chi'n gweithio 18.5 awr yr wythnos, rydych chi'n gweithio 50% o'r flwyddyn ac felly, byddwch chi'n cronni gwasanaeth o 6 mis tuag at eich pensiwn. 

Cyflog =

Fel arfer, caiff ei gyfrifo ar y cyflog blwyddyn rydych chi'n ei gael cyn gadael (os ydych chi'n gweithio'n rhan-amser, mae'ch cyflog yn cael ei gynyddu i'r swm y byddech chi wedi'i gael pe baech chi wedi gweithio'n amser llawn, h.y. eich cyflog 'cyfwerth ag amser llawn').

Neu, os oedd eich cyflog yn fwy yn un o'r ddwy flynedd flaenorol, yna, bydd modd i hyn gael ei ddefnyddio yn lle'ch blwyddyn olaf.

Neu, os yw'ch cyflog yn cael ei leihau neu mae cynnydd i'ch cyflog yn cael ei gyfyngu yn ystod eich 10 mlynedd o wasanaeth di-dor olaf, bydd yr opsiwn gyda chi i'ch buddion gael eu seilio ar swm cyfartalog unrhyw 3 blynedd yn olynol yn ystod y 13 blynedd olaf (dod i ben 31 Mawrth), os ydych chi'n dewis gwneud hynny dim hwyrach na mis cyn gadael.

Os oeddech chi'n aelod o'r cynllun cyn Ebrill 2014, bydd eich buddion yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:

Bob blwyddyn o aelodaeth yn y cynllun, byddwch chi'n cronni pensiwn ar 1/49 (ym mhrif adran y cynllun) o'ch tâl pensiynadwy. Mae'r swm rydych chi'n ei gronni bob blwyddyn yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn ac mae chwyddiant yn cael ei ychwanegu i sicrhau bod eich pensiwn yn ystyried costau byw.

Os £20,000 yw'ch tâl pensiynadwy, bydd £408.16 yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn (h.y. £20,000 wedi'i rannu â 49). Gyda chwyddiant o 3%, ar ddiwedd y flwyddyn, byddai'r £408.16 yn cynyddu i £420.41.

Yn yr ail flwyddyn, os £20,500 yw'ch tâl pensiynadwy, bydd £418.36 yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn (h.y. £20,500 wedi'i rannu â 49). Gyda chwyddiant o 3% eto, byddai'ch cyfrif pensiwn yn tyfu i £863.93.

Mae modd dangos hyn fel a ganlyn:

 
BlwyddynPensiwn ar y dechrauCyflog pensiynadwyCyfradd groniadauPensiwn sy'n cael ei gronni yn ystod y flwyddynCyfanswm y pensiwn wedi'i gronniAdbrisioPensiwn ar y diwedd
Blwyddyn 2 £420.41  £20,500  49  £418.36  £838.77  3%  £863.93
Blwyddyn 1  £0.00  £20,000  49  £408.16    3%  £420.41

Bydd modd i chi ddewis symud i adran 50/50 y cynllun sy'n eich galluogi chi i dalu hanner y gyfradd gyfrannu y byddech chi'n ei thalu yn y brif adran, a chronni hanner y pensiwn. Os £20,000 yw'ch tâl pensiynadwy, yna bydd £204.08 yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif (h.y. £20,000 wedi'i rannu â 98).

Os oeddech chi'n rhan o'r cynllun cyn 1 Ebrill 2014, byddwch chi'n symud yn awtomatig o'r cynllun cyflog terfynol i'r cynllun 'Cyfartaledd cyflog gyrfa wedi'i adbrisio'. Pan fyddwch chi'n gadael y cynllun, bydd eich buddion a gafodd eu cronni cyn Ebrill 2014 yn cael eu seilio ar eich gwasanaeth hyd at 31 Mawrth 2014, ond yn defnyddio'ch cyflog cyfwerth ag amser llawn pan fyddwch chi'n gadael y cynllun mewn gwirionedd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gronfa Bensiwn.