Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y newyddion diweddaraf am y Coronafeirws (COVID-19)

Annwyl Aelod o'r Cynllun,

Wrth i'r sefyllfa ynglŷn â'r Coronafeirws newid yn ddyddiol, rydyn ni'n edrych ar sut y gallwn ni barhau i gefnogi ein haelodau yn ogystal â sicrhau lles ein carfan.

Ein nod yw cynnal y gwasanaeth hyd eithaf ein gallu. Fodd bynnag, bydd newidiadau i batrymau gwaith a llai o staff yn effeithio ar hyn dros yr wythnosau nesaf.

Y ffordd orau i gyfathrebu â ni ar hyn o bryd yw naill ai trwy e-bost neu drwy Fy Mhensiwn Ar-lein.  Ein cyfeiriad e-bost yw pensiynau@rctcbc.gov.uk a byddwn ni'n ateb cyn gynted ag y gallwn.  Mae Fy Mhensiwn Ar-lein yn gyfleuster diogel ar-lein sy'n caniatáu i chi weld cofnod eich pensiwn, gwneud amcangyfrifon o'ch buddion pensiwn yn y dyfodol a diweddaru'ch cyfeiriad, manylion banc neu fanylion enwebu. Os nad ydych chi wedi cofrestru a chreu cyfrif yn barod, cliciwch ar fotwm Fy Mhensiwn Ar-lein a dilyn y cyfarwyddiadau.

Ar hyn o bryd byddwn ni'n derbyn copïau wedi'u sganio neu ffotograffau os bydd angen i chi anfon unrhyw ddogfennau neu ffurflenni aton ni (efallai y byddwn ni'n gofyn i chi anfon y rhai gwreiddiol aton ni yn y dyfodol). Croeso i chi atodi dogfennau mewn neges e-bost neu eu lanlwytho gan ddefnydio'ch cyfrif Fy Mhensiwn Ar-lein. Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn adran Lanlwytho Dogfennau Fy Mhensiwn ar-lein.

Rydyn ni hefyd wedi penderfynu peidio â chaniatáu ymwelwyr i'n swyddfa am y tro. Mae hyn er diogelwch aelodau ein cynllun a'n staff.

Bydd ein Desg Gymorth ar agor o hyd, ond efallai bydd raid lleihau'r oriau. Y rhif ffôn yw 01443 680611.

Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd yma.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi llunio taflen ffeithiau Cwestiynau Cyffredin fydd efallai o gymorth ichi. Cliciwch yma i'w gweld.

Tudalennau yn yr adran yma