Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cwynion Gwasanaeth Cwsmeriaid

Datrys Cwynion Gwasanaeth Cwsmeriaid  

Ein nod yw darparu’r gwasanaeth gorau posib i’n cwsmeriaid ac rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud pethau’n iawn y tro cyntaf. Os oes gennych gŵyn, yna cysylltwch â ni yn y Gronfa Bensiwn er mwyn i ni allu gwneud pethau’n iawn cyn gynted ā phosib.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei weithdrefn Gwyno ei hun hefyd sydd i’w gweld yma

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ceisio ymdrin â’ch cwyn cyn gynted â phosib yn unol â’n gweithdrefn gwyno. 

Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth yn cadarnhau bod eich cwyn wedi’i derbyn cyn pen pum diwrnod gwaith.

Mae gan y Cyngor broses dau gam o  ymdrin â chwynion

Cam 1    

Nod y Cyngor yw datrys y gŵyn neu gywiro pethau’n gyflym ac i’r graddau y bo modd yn y cam hwn, er mwyn osgoi’r angen am Gam 2.

Caiff cwynion eu cyfeirio at y swyddog priodol i ymdrin â nhw, a’u cydnabod o fewn y safonau gwasanaeth a nodir gan y Cyngor. Bydd swyddog yn trefnu i’r mater gael ei ddatrys a bydd yn ymateb i’r cwsmer yn yr un modd ag y cysylltodd y cwsmer â’r Cyngor. Lle’n briodol, anfonir llythyr ymateb at y cwsmer, ynghyd â chyngor ar sut i fynd â’r mater yn ei flaen yn ysgrifenedig i Ail Gam y weithdrefn gwynion os yw’n dal i fod yn anfodlon.

Cam 2  

Os yw cwsmer yn anfodlon â chanlyniad ei gŵyn yng Ngham 1, gall ei chyfeirio i Gam 2 ar gyfer ymchwiliad ffurfiol. Bydd un o uwch swyddogion y Cyngor yn ymdrin â’ch cwyn Cam 2 a gall fod yn annibynnol ar y gwasanaeth y mae’ch cwyn yn ymwneud ag ef. Anfonir llythyr ymateb manwl ffurfiol at y cwsmer. Lle cytunir bod cwyn yn gyfiawn, bydd yn cynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig, ac os yn briodol, yn manylu ar gamau i’w cymryd i unioni’r gŵyn, a’i hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol. Os yw cwsmer yn anghytuno â chanlyniad Cam 2, gall gyfeirio’r mater i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ymchwiliad annibynnol.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: - 0300 7900203