Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Marwolaeth ar ôl ymddeol

Os byddwch chi'n marw tra eich bod chi'n cael pensiwn, bydd grant marwolaeth yn daladwy.  Mae grant marwolaeth yn daladwy dim ond os yw'r farwolaeth o fewn y 10 mlynedd gyntaf o ddechrau'r pensiwn ac rydych chi o dan 75 oed.

Rydych chi'n gallu mynegi dymuniad ynglŷn ag i bwy yr hoffech chi i unrhyw grant marwolaeth gael ei dalu trwy lenwi a dychwelyd ffurflen manylion eich dymuniadau mewn perthynas â'r Grant Marwolaeth.

Gallwch chi enwebu unrhyw un i dderbyn y grant marwolaeth - fodd bynnag, dydy'r Gronfa ddim wedi'i rhwymo'n gyfreithiol gan eich enwebiad ac mae'n cadw disgresiwn llwyr ynghylch pwy sy'n derbyn taliadau, ond bydd yn ystyried eich dymuniadau.

Os yw'r buddion pensiwn wedi cronni dim ond ar ôl Ebrill 2014, yna, bydd grant marwolaeth yn daladwy fel a ganlyn:

10 x swm y pensiwn cyn cyfnewid unrhyw bensiwn am gyfandaliad (os yw'n berthnasol)

llai         swm y pensiwn sydd wedi'i dderbyn hyd at ddyddiad y farwolaeth

llai        swm y cyfandaliad sydd wedi'i gymryd

Os yw'r pensiwn yn cynnwys buddion sydd wedi cronni cyn, ac ar ôl, Ebrill 2014, yna, bydd grant marwolaeth yn cael ei gyfrifo ar wahân ar gyfer y ddau gyfnod:

Y grant marwolaeth sy'n daladwy ac sy'n berthnasol i'r aelodaeth cyn Ebrill 2014 yw:

10 x swm y pensiwn ar ôl cyfnewid unrhyw bensiwn am gyfandaliad

llai        swm y pensiwn sydd wedi'i dderbyn hyd at ddyddiad y farwolaeth

YNGHYD Â'R

Grant marwolaeth sy'n daladwy, sy'n berthnasol i'r aelodaeth sydd wedi cronni ar ôl Ebrill 2014

10 x swm y pensiwn cyn cyfnewid unrhyw bensiwn am gyfandaliad (os yw'n berthnasol)

llai        swm y pensiwn sydd wedi'i dderbyn hyd at ddyddiad y farwolaeth

llai        swm y cyfandaliad a gafodd ei gymryd (wedi'i gyfrifo yn ôl yr aelodaeth cyn Ebrill 2014)

Os byddwch chi'n ymddeol ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny, bydd y Grant Marwolaeth sy'n daladwy (os byddwch chi'n marw) 5 gwaith gwerth eich pensiwn blynyddol, llai unrhyw swm sydd wedi'i dalu eisoes.  Felly, does dim grant sy'n daladwy bellach ar farwolaeth aelod a ddechreuodd ei bensiwn cyn 31 Mawrth 2008.

Goroeswyr Pensiwn

Yn ogystal â hynny, bydd pensiwn sy'n daladwy i'ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy'n cyd-fyw drwy gydol ei oes/hoes.

Pensiwn Plant

Os oes plant gyda chi sydd o dan 18 oed (neu sydd o dan 23 oed sy'n cael addysg amser llawn o hyd) ar ddyddiad eich marwolaeth, bydd pensiwn yn daladwy cyhyd â'u bod yn gymwys.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gronfa Bensiwn.