Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cofrestru Awtomatig

O dan Ddeddf Pensiynau 2008, rhaid i bob cyflogwr yn y DU roi rhai staff mewn cynllun pensiwn a chyfrannu tuag ato. ‘Cofrestru awtomatig’ yw hyn.

Bydd gan bob cyflogwr yn y Gronfa eu ‘diwrnod gweithredu’ eu hunain, h.y. rhaid iddynt gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth erbyn y dyddiad hwn, a gall eich cyflogwr ddewis gohirio eu dyletswyddau cofrestru awtomatig am dri mis (o’u dyddiad gweithredu). Os byddant yn gwneud hynny, byddant yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych.

Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cofrestru awtomatig ac mae wedi derbyn cymeradwyaeth fel cynllun cymwys.

Gall cyflogwyr nad ydynt yn cynnig cynllun pensiwn cymwys priodol ddefnyddio Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Cenedlaethol y Llywodraeth (NEST) neu wneud eu trefniadau eu hunain gyda darparwr pensiwn sy’n cynnig cynllun cymwys addas. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i    

 http://www.thepensionsregulator.gov.uk/cy/employers