Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwy gaiff ymuno?

Os ydych chi rhwng 16 oed a 75 oed, ac mae gyda chi gontract cyflogaeth o 3 mis neu fwy na hynny, ac rydych chi’n gweithio i un o’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn y CPLlL, yna, fe fyddwch chi’n ymuno â’r cynllun pensiwn yn awtomatig pan fyddwch chi’n dechrau’ch swydd.

Os oes gyda chi gontract o lai na 3 mis, yna, fe gewch chi wneud cais i ymuno.

Ym mis Hydref 2012, cyflwynodd y Llywodraeth reoliadau sy’n golygu bod rhaid i’ch cyflogwr eich cofrestru chi mewn cynllun pensiwn os yw meini prawf penodol yn cael eu bodloni. Bydd modd i’ch cyflogwr roi gwybodaeth i chi am sut bydd hyn yn berthnasol i chi.

Chaiff yr Heddlu, diffoddwyr tân nac athrawon ddim ymuno â’r CPLlL.

I weld a ydych chi wedi’ch cofrestru ar gyfer y CPLlL, edrychwch ar eich cyfloglen – byddwch chi’n gweld bod cyfraniadau pensiwn wedi’u didynnu.

Os ydych chi wedi dewis eithrio yn y gorffennol, bydd modd i chi ddewis ailymuno.