O 1 Ebrill 2014 ymlaen mae dwy adran i'r cynllun pensiwn - y brif adran a'r adran 50/50.
O dan Ddeddf Pensiynau 2008, rhaid i bob cyflogwr yn y DU roi rhai staff mewn cynllun pensiwn a chyfrannu tuag ato. 'Cofrestru awtomatig' yw hyn.
Mae eich cyfradd gyfrannu'n dibynnu ar faint rydych chi'n cael eich talu, ond bydd rhwng 5.5% a 7.5% o'ch cyflog pensiynadwy. Mae'r gyfradd y byddwch chi'n ei thalu'n dibynnu ar ba fand cyflog rydych chi'n perthyn iddo.
Mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn un o'r ffyrdd gorau i gynllunio ar gyfer ymddeol gydag ystod ardderchog o fudd-daliadau y gall gweithwyr llawn-amser a rhan-amser yn mwynhau.
Os ydych chi'n gymwys i ymuno â'r cynllun o'ch diwrnod cyntaf o gyflogaeth, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru yn awtomatig yn y cynllun pensiwn ac yn anfon pecyn croeso i chi sy'n cynnwys ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi.
Os ydych chi rhwng 16 oed a 75 oed, ac mae gyda chi gontract cyflogaeth o 3 mis neu fwy na hynny, ac rydych chi'n gweithio i un o'r cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn y CPLlL
Mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Cynllun Pensiwn) yn rhoi cyfle i chi gynilo wrth weithio, er mwyn mwynhau pensiwn ar ôl i chi ymddeol.
Browser does not support script.