Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pam ymuno'r chynllun?

Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Cynllun Pensiwn) yn rhoi cyfle i chi gynilo wrth weithio, er mwyn mwynhau pensiwn ar ôl i chi ymddeol. Ar ben hynny, caiff y cynllun pensiwn ei ddarparu gan eich cyflogwr sy’n talu rhan o’r gost o ddarparu detholiad gwych o fuddion, felly mae’n rhan werthfawr o’ch pecyn cyflogaeth.

Rhaid bod gennych gontract cyflogaeth am 3 mis o leiaf, a bod dan 75 oed, i ymuno â’r Cynllun Pensiwn.

Fel aelod, bydd y Cynllun Pensiwn yn darparu incwm ymddeol sicr i chi ar gyfer y dyfodol, sy’n annibynnol ar brisiau cyfranddaliadau ac ansefydlogrwydd y farchnad stoc. Mae’r manteision eraill yn cynnwys yswiriant bywyd a buddion teulu pan fyddwch yn marw. Mae hefyd yn cynnwys yswiriant os byddwch yn gorfod ymddeol yn gynnar oherwydd salwch parhaol, diswyddiad neu effeithlonrwydd busnes. Gallech hefyd ddewis cyfnewid rhan o’ch pensiwn am arian parod di-dreth ar eich ymddeoliad.

Os yw’r pethau hyn o werth i chi, yna mae’n werth ystyried cyfrannu at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Fel aelod o’r Cynllun Pensiwn hwn, cewch y sicrwydd o’r buddion hyn am gost gymharol isel.

A oes dewisiadau eraill?

Mae yna ddewisiadau eraill i gynllun galwedigaethol fel cynlluniau pensiwn personol neu bensiynau rhanddeiliaid, ond cofiwch na fydd eich cyflogwr yn cyfrannu atynt fel arfer, ac mai chi’ch hun fydd yn ysgwyddo’r gost yn llawn. Cynlluniau pensiwn â ‘chyfraniad wedi’i ddiffinio’ yw’r rhain, gan nad oes neb yn gwybod faint o bensiwn fydd ar gael adeg ymddeol a’u bod yn dibynnu ar dwf buddsoddiadau y farchnad stoc a faint o gyfraniadau a dalwyd.

Deiliad y cynllun sy’n gyfan gwbl gyfrifol am y risg buddsoddiad.

I gael rhagor o wybodaeth am bensiwn sylfaenol y wladwriaeth, ewch i DirectGov.