Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Daeth y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol

Daeth y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol i rym ar 25 Mai 2018. O dan y rheoliadau newydd yma, mae Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf yn Rheolwr Data. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n storio, cadw a rheoli eich data personol yn unol â'r gofynion statudol er mwyn ein galluogi ni i weinyddu'ch pensiwn.  Er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein dyletswyddau, mae'n ofynnol i ni rannu'ch gwybodaeth gyda chyrff penodol, ond dim ond mewn rhai amgylchiadau y bydd hynny.  Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am y data rydyn ni'n eu cadw a'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'r data hynny? Edrychwch ar ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn drwy glicio yma.

Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hefyd wedi'i ddosbarthu i'n Cyflogwyr Cronfa sy'n amlinellu sut y bydd data'n cael eu rhannu rhyngddyn nhw a'r Gronfa.

Os oes cwestiynau gyda chi ynglŷn â sut mae'r gronfa yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni.

Cadw Data

 Byddwn ni ond yn cadw eich data personol tra bydd ei angen ar gyfer bodloni'r dibenion tu ôl i'w gasglu yn y lle cyntaf.  Rhaid i ni gadw ambell gofnod yn sgil rhwymedigaeth statudol i wneud hynny neu am fod angen yr wybodaeth arnon ni i allu ymateb i gwestiynau a allai godi ynghylch cyfrifo'r buddion a dalwyd yn y gorffennol.  Mae'r polisi cadw Cronfeydd Data, sydd i'w weld yma yn nodi'r mesurau mae Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf yn eu defnyddio.

Tudalennau yn yr adran yma