Fel aelod blaenorol o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, byddwch chi wedi cronni buddion yn y cynllun a chaiff y rhain eu cadw gan y Cynllun tan y byddan nhw'n daladwy – mae hyn yn cael ei alw'n fudd gohiriedig.
Mae modd i chi gymryd eich buddion ar unrhyw oedran o 55 oed ymlaen ond mae'n bosibl bydd gostyngiadau yn cael eu cymhwyso iddyn nhw.
Mae eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn drethadwy, ond telir eich cyfandaliad yn ddi-dreth. Mae p'un a ydych yn talu treth pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar faint eich pensiwn a'ch amgylchiadau personol.
Efallai bydd hi'n bosibl i chi drosglwyddo'r buddion rydych chi wedi'u cronni yn y cynllun i gynllun pensiwn galwedigaethol arall – bydd eisiau ichi gadarnhau gyda gweinyddwyr y cynllun newydd a fyddan nhw'n derbyn 'trosglwyddo i mewn'.
Os byddwch chi'n marw cyn i'r budd gohiriedig gael ei dalu, bydd grant marwolaeth, gwerth 5 gwaith yn fwy na'r pensiwn gohiriedig i'w dalu.
Dogfennau cysylltiedig
Mae'r CPLlL yn rhan werthfawr o'r pecyn cyflog a buddion i weithwyr llywodraeth leol neu rai sy'n gweithio i gyflogwyr eraill sy'n rhan o'r Cynllun, ac yn aml, caiff ei ystyried yn un o fanteision ariannol mwyaf gwerthfawr y swydd.
Browser does not support script.