Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Polisi Cwcis

Ein nod ni yw ei gwneud hi mor hwylus ag y bo modd i chi gyrchu'r wefan. I wneud hynny, byddwn ni'n gosod ffeiliau bach sy'n cynnwys data ar eich dyfais (cyfrifiadur, ffôn glyfar, cyfrifadur 'llechen', ac ati). Cwcis rydyn ni'n galw'r ffeiliau yma. A siarad yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o wefannau eraill yn defnyddio cwcis hefyd.

Byddan nhw'n gwneud pethau'n fwy hwylus i chi trwy:

  • cofio'ch dewisiadau (neu osodiadau) fel na fydd eisiau ichi'u dewis/teipio nhw byth a hefyd (e.e. dewis fersiwn Gymraeg neu Saesneg).
  • cofio'r wybodaeth byddwch chi eisoes wedi'i darparu fel na fydd eisiau ichi'i hailgyflwyno dro ar ôl tro (e.e. manylion cyswllt).
  • Mesur sut mae'n gwefan yn cael ei defnyddio, fel bydd modd inni bennu blaenoriaeth ar gyfer ei gwella.

Mae modd ichi drefnu a/neu ddileu'r ffeiliau bach hyn fel y dymunwch. Hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â'r cwcis a sut mae'u rheoli nhw, ewch i www.aboutcookies.org. Rydyn ni'n esbonio sut a ble rydyn ni'n defnyddio cwcis isod.

Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis

Mae'r wefan yma'n defnyddio cwcis ar gyfer sawl peth – mae rhestr o bob un isod ynghyd â rhesymau dros eu defnyddio, ac am faint byddan nhw'n para.

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn ni'n rhoi gwybod ichi cyn inni osod ffeil fach/cwci ar eich dyfais.

Mesur y defnydd ar y wefan a phennu problemau (Google Analystics)

Byddwn ni'n defnyddio cwcis Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn cyrchu'r wefan hon, ac am unrhyw broblemau sy'n dod i'r amlwg (dolenni sydd ddim yn gweithio, er enghraifft). Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth ynghylch y tudalennau rydych chi wedi'u gweld, am faint roeddech chi'n cyrchu'r wefan, sut cawsoch chi'ch cyfeirio i'r wefan, ac ar yr hyn rydych chi'n clicio. Fyddwn ni ddim yn cadw'ch gwybodaeth bersonol, felly fydd dim modd i neb eich adnabod chi trwy'r wybodaeth hon. Dydyn ni ddim yn caniatáu i Google ddefnyddio'n data na'i rannu.

Rydyn ni'n defnyddio Google Analytics i ofalu bod ein gwefan yn diwallu'ch anghenion chi o ran ei chyrchu, ac yn gymorth inni flaenoriaethu unrhyw welliannau. Mae Google yn rhoi rhagor o wybodaeth am ei bolisi preifatrwydd a chwcis ar ei wefan. Mae Google hefyd yn darparu ychwanegyn yn eich porwr a fyddai'n rhoi dewis ichi beidio â bod yn rhan o Google Analytics yn achos pob gwefan.

Math o gynnwys i'w weld
EnwMath o gynnwys i'w weldYn dod i ben
_utma rhyw rif sydd wedi'i greu ar hap 2 flynedd
_utmb rhyw rif sydd wedi'i greu ar hap 30 munud
_utmc rhyw rif sydd wedi'i greu ar hap Pan fyddwch chi'n cau'ch porwr
_utmz rhyw rif sydd wedi'i greu ar hap ynghyd â gwybodaeth ar sut cawsoch chi'ch cyfeirio i'r wefan (e.e. yn uniongyrchol neu drwy ddolen, canlyniadau chwilio naturiol, neu ganlyniadau trwy hysbyseb â thâl) 6 mis

Adrannau sydd eisiau ichi gofrestru/mewngofnodi

Mae gan y wefan hon fan diogel i weithwyr. Mae'n defnyddio'r cwcis canlynol os byddwch chi'n cofrestru a mewngofnodi.

Math o gynnwys i'w weld
 Enw Math o gynnwys i'w weld Yn dod i ben
 .ASPXAUTH  Gwag  Pan fyddwch chi'n cau'ch porwr
 ASP.NET_SessionId  Gwag  Pan fyddwch chi'n cau'ch porwr
 ContensisAvatar  Llun Proffil Rhagosodedig  1 mis
 ContensisCMSUserName  CMS GUID  1 mis
 ContensisDisplayName  Enw wedi'i ddefnyddio i gofrestru  1 mis
 ContensisLastUserName  Cyfeiriad e-bost wedi'i ddefnyddio i gofrestru  1 mis
 ContensisSecurity  Gwag  Pan fyddwch chi'n cau'ch porwr
 ContensisSecurityBearerToken  Gwag  Pan fyddwch chi'n cau'ch porwr
 ContensisSecurityRefreshToken  Gwag  Pan fyddwch chi'n cau'ch porwr
 HasContensisSecurity  Gwag  Pan fyddwch chi'n cau'ch porwr