Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Newyddion Diweddaraf

Mae’r adran yma'n rhoi gwybodaeth am straeon newyddion cyfredol sy’n ymwneud â phensiynau, a chaiff ei diweddaru’n rheolaidd er mwyn cynnwys y newyddion diweddaraf a datblygiadau o fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).

Sedd Wag Newydd – Bwrdd Pensiynau

Mae Deddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i ni sefydlu Bwrdd Pensiynau i sicrhau bod Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf yn cael ei llywodraethu a'i gweinyddu yn effeithiol. Ar 14 Ionawr 2015, cadarnhaodd Cyngor Rhondda Cynon Taf (Corff Gweinyddu) sefydlu Bwrdd Pensiwn i ddod yn weithredol o 1 Ebrill 2015.

Mae'r Bwrdd yn helpu Awdurdod Gweinyddu Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac yntau'n 'Rheolwr Cynllun', i wneud y canlynol:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Prif Reoliadau ac unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n ymwneud â llywodraethu a gweinyddu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion sy'n cael eu pennu mewn perthynas â'r CPLlL gan y Rheolydd Pensiynau; a
  • Sicrhau llywodraethu a gweinyddu effeithiol ac effeithlon o'r CPLlL gan y Rheolwr Cynllun.

Mae'r Rheolydd Pensiynau wedi llunio canllaw cyflym i Fyrddau Pensiwn Gwasanaethau Cyhoeddus y mae modd bwrw golwg arno, yma: https://www.thepensionsregulator.gov.uk/en/public-service-pension-schemes/further-resources/pension-guides

Mae sedd wag ar gael ar Fwrdd Pensiynau Rhondda Cynon Taf ar gyfer Cynrychiolydd Aelodau. Mae'n ofynnol i'r Bwrdd gwrdd ddwywaith y flwyddyn. Er mwyn cael eich ystyried, rhaid bod modd i chi fod yn gyfarwydd â'r canlynol:

  • deddfwriaeth a rheoliadau sy’n berthnasol i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • unrhyw ddogfen sy’n cofnodi polisïau’n ymwneud â gweinyddu’r gronfa

a deall a gwybod am y canlynol:

  • y gyfraith sy'n ymwneud â phensiynau
  • unrhyw faterion eraill sydd wedi'u pennu mewn rheoliadau.

I gael disgrifiad manylach o'r swyddogaeth a chylch gorchwyl y Bwrdd Pensiynau darllenwch y Cylch Gorchwyl a'r Swyddogaethau a Chyfrifoldebau.

Cliciwch yma

Bydd Cynrychiolwyr Aelodau yn derbyn tâl am gyflawni eu dyletswyddau. Os ydych chi'n gyflogedig ar hyn o bryd, gwiriwch â'ch Cyflogwr ynghylch ei bolisi ar ganiatáu amser i chi fynychu Cyfarfodydd Bwrdd a Sesiynau Hyfforddi gan y bydd angen i chi allu ymrwymo i fynychu dau Gyfarfod Bwrdd y flwyddyn a sesiynau hyfforddiant perthnasol.

Os ydych chi am gael eich ystyried ar gyfer y sedd wag yma, cwblhewch y ffurflen gais a'i hanfon i pensiynau@rctcbc.gov.uk gyda'r canlynol yn y llinell pwnc: “Sedd wag ar y Bwrdd Pensiynau (Cynrychiolydd Aelodau)”. Y dyddiad cau yw 8 Ionawr 2024. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddewis o blith y rheiny sydd wedi cyflwyno cais (efallai y bydd angen cynnal cyfweliadau) a byddwn ni'n rhoi gwybod i bob ymgeisydd a yw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio erbyn 19 Ionawr 2024.

Datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru

Mae'r sefyllfa yn Wcráin yn peri tristwch mawr i ni ac rydym yn meddwl am bobl Wcráin.

Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%. Er hynny, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn posibl.

Y Cynghorydd Clive Lloyd

Ar gyfer ac ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Sut fydd Ddyfarniad McCloud yn effeithio ar CPLlL

Pan newidiodd yr CPLlL o gyflog terfynol i gynllun pensiwn cyfartalog gyrfa yn 2014, cyflwynwyd amddiffyniadau i aelodau hŷn y cynllun (y cyfeirir atynt fel tanategiad). Darparwyd amddiffyniadau tebyg mewn cynlluniau pensiwn eraill yn y sector cyhoeddus. Dyfarnodd y Llys Apêl fod camwahaniaethu ar aelodau iau cynlluniau Pensiwn y Barnwyr a'r Diffoddwyr Tân  oherwydd nad yw'r amddiffyniadau'n berthnasol iddynt. Mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd newidiadau i holl brif gynlluniau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys yr CPLlL, i gael gwared ar y camwahaniaethu ar sail oedran. Yn aml, gelwir y dyfarniad hwn yn ddyfarniad McCloud.

Mae'r Llywodraeth yn dal i ystyried yn union pa newidiadau y mae'n rhaid eu gwneud i gael gwared ar y camwahaniaethu o'r CPLlL. Mae hyn yn golygu NAD oedd yn bosibl adlewyrchu effaith y dyfarniad yn eich datganiad buddion blynyddol eleni. Os ydych chi'n gymwys i gael eich amddiffyn, bydd yn berthnasol yn awtomatig - nid oes angen i chi wneud cais.

I gael mwy o wybodaeth am ddyfarniad McCloud, gweler y cwestiynau cyffredin ar wefan genedlaethol CPLlL: www.lgpsmember.org/news/latest.php

Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn cyhoeddi Polisi Buddsoddi Cyfrifol newydd uchelgeisiol

Mae Partneriaeth Pensiwn Cymru ('PPC'), sy'n cyfuno wyth Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyhoeddi polisi Buddsoddi Cyfrifol ('BC') newydd, sy'n tynnu sylw at ei hymrwymiad i fuddsoddi'n gyfrifol a'i dyhead i arwain yn y maes hwn.

Cafodd y polisi cyffredinol newydd ei ddatblygu ar y cyd gan PPC a'i wyth Awdurdod Cyfansoddol* a bydd yn cael ei fabwysiadu gan bob un ohonynt. Ar yr un pryd, bydd yn galluogi Awdurdodau Cyfansoddol unigol i gynnal a datblygu eu polisïau BC eu hunain.

Wrth sôn am ddatblygu'r polisi BC newydd, mae Chris Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol o Awdurdod Cynnal PPC, yn dweud:

"Mae polisïau buddsoddi cyfrifol yn hollbwysig, nid yn unig ar gyfer gweinyddu ein cronfeydd ond ar gyfer dyfodol Cymru. Fe wnaethom gydnabod pa mor hanfodol i PPC oedd sefydlu ei pholisi buddsoddi cyfrifol ei hun a'n bwriad oedd sicrhau bod holl randdeiliaid PPC yn cael eu cynrychioli wrth ddatblygu'r polisi. Roedd ennyn cefnogaeth a dod i gonsensws ymysg yr Awdurdodau Cyfansoddol yn hanfodol. Roedd angen inni sicrhau bod y polisi yn cynrychioli'r ystod eang o gredoau buddsoddi sydd yn y Gronfa. Rydym wrth ein boddau ein bod yn gytûn â'n gilydd o ran y polisi, a bellach gellir ei roi ar waith ar ran yr Awdurdodau Cyfansoddol sy'n gyfrifol amdano. Rydym i gyd yn hynod ymroddedig i weld y Polisi BC newydd uchelgeisiol hwn yn llwyddo."

Yn ei bolisi BC newydd, mae PPC wedi cytuno i flaenoriaethu nifer o gamau gweithredu yn ystod y 12 mis nesaf, gan gynnwys datblygu polisi sy'n ymwneud yn benodol â newid yn yr hinsawdd ac ymgysylltu â'i rheolwyr buddsoddi i ddatblygu ystod o fetrigau priodol sy'n monitro BC.

Gellir dod o hyd i fersiwn lawn o bolisi BC PPC ar ei gwefan newydd https://www.partneriaethpensiwncymru.org/

Y DIWEDD

Rhagor o wybodaeth:

partneriaethpensiwncymru@sirgar.gov.uk  

Nodyn i Olygyddion:

*Rhestr o'r Awdurdodau Cyfansoddol

  • Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Cronfa Bensiwn Clwyd
  • Cronfa Bensiwn Dyfed
  • Cronfa Bensiwn Torfaen
  • Cronfa Bensiwn Gwynedd
  • Cronfa Bensiwn Powys
  • Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf
  • Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Gwybodaeth am PPC

Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn 2017. Mae PPC yn gyfuniad o wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) o bob rhan o Gymru ac mae'n un o wyth cronfa genedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o gydweithio, gan gynnwys esiamplau sy'n dyddio o gyfnod cyn menter gyfuno'r Llywodraeth. Mae'n falch o'i hunaniaeth unigryw fel Cronfa - mae ei Hawdurdodau Cyfansoddol yn cynrychioli Cymru gyfan ac yn dod o bob rhan o'r wlad. Mae bod yn atebol yn ddemocrataidd yn golygu ei bod yn darparu'r gorau o ran tryloywder a llywodraethu'r sector cyhoeddus yn gadarn.

Mae model gweithredu PPC wedi cael ei ddylunio i fod yn hyblyg ac i gynnig gwerth am arian. Penodwyd Gweithredwr allanol a defnyddir ymgynghorwyr allanol er mwyn cael yr arbenigedd gorau i gefnogi gweinyddu'r Gronfa. Link Fund Solutions yw'r Gweithredwr ac mae wedi ymuno â Russell Investments i reoli'r buddsoddiadau a helpu i leihau costau rheoli buddsoddi ar gyfer yr holl Awdurdodau Cyfansoddol.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn lansio gwefan 'MOT Canol Oed'.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Gwasanaeth Cynghori Ariannol a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol, wedi lansio porth gwe 'MOT Canol Oed' i ddarparu cyngor am bensiynau, opsiynau gweithio a materion iechyd i weithwyr.  Mae'r wefan yn galluogi gweithwyr i edrych am eu hawliau pensiwn y wladwriaeth ac yn darparu dolenni i wasanaethau cynghori ariannol a chanllawiau gan TPAS, Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Pension Wise.  Yn ogystal â'r wefan MOT Canol Oed i unigolion, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau, mewn cydweithrediad â Busnes yn y Gymuned, hefyd wedi paratoi canllaw i gwmnïau bach am sut mae modd iddyn nhw ddarparu MOT Canol Oed i'w staff.

Derbyn buddion gohiriedig yn gynnar i'r rhai a adawodd cyn 1 Ebrill 1998

Ysgrifenasom atoch y llynedd i roi gwybod ichi am newid i reolau'r cynllun os gwnaethoch adael gyda buddion gohiriedig cyn 1 Ebrill 1998. Rhoesom wybod ichi fod rheolau'r cynllun wedi newid i ganiatáu ichi dderbyn eich buddion yn 55 oed (yn hytrach na 60 oed), neu o'r dyddiad y bydd eich buddion gohiriedig yn daladwy heb ostyngiad am eu talu'n gynnar, sef eich Oedran Pensiwn Arferol. Bydd eich Oedran Pensiwn Arferol rhwng 60 a 65 oed, gan ddibynnu ar pryd y gwnaethoch ymuno â'r cynllun – gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon ar eich datganiad buddion gohiriedig. 

Rydym yn ysgrifennu atoch eto i roi gwybod ichi fod newid arall wedi'i wneud i reolau'r cynllun sydd bellach yn caniatáu ichi dderbyn eich buddion o 55 oed ymlaen (yn hytrach na dim ond yn 55 oed neu'ch Oedran Pensiwn Arferol ) – nid oes angen i'ch cyn-gyflogwr gydsynio ichi dderbyn eich buddion rhwng 55 oed a'ch Oedran Pensiwn Arferol. Mae'n rhaid ichi dderbyn eich buddion gohiriedig pan fyddwch yn cyrraedd eich Oedran Pensiwn Arferol (os nad ydych wedi eu derbyn cyn hynny). 

Yn ogystal, nid oes rhaid ichi adael pob cyflogaeth llywodraeth leol mwyach er mwyn derbyn eich buddion gohiriedig. Mae hyn yn golygu, os ydych yn gweithio mewn cyflogaeth llywodraeth leol arall (h.y. cyflogaeth wahanol i'r gyflogaeth roeddech ynddi pan wnaethoch gronni eich buddion gohiriedig), bellach gallwch ddewis derbyn eich buddion gohiriedig a pharhau yn eich cyflogaeth llywodraeth leol.  

Bydd y newidiadau uchod yn cael eu hôl-ddyddio i 17 Ebrill 2018. 

Dylech gyflwyno cais am dderbyn eich buddion gohiriedig yn gynnar i Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Adran Y Gyflogres.

Gostwng eich buddion yn sgil eu derbyn yn gynnar.

Os ydych yn dewis derbyn eich buddion gohiriedig yn gynharach na'ch Oedran Pensiwn Arferol, byddant fel rheol yn cael eu gostwng yng ngolwg y ffaith y bydd eich pensiwn yn cael ei dalu dros gyfnod hwy. Bydd maint y gostyngiad i'ch buddion gohiriedig yn dibynnu ar pa mor gynnar y byddwch yn eu derbyn. Mae'r gostyngiad yn seiliedig ar hyd y cyfnod (mewn blynyddoedd a diwrnodau) rhwng y dyddiad yr ydych yn eu derbyn a'r dyddiad y bydd eich buddion gohiriedig yn daladwy heb ostyngiad am eu talu'n gynnar. Os ydych yn ansicr ynghylch eich Oedran Pensiwn Arferol, dylech wirio eich datganiad buddion gohiriedig. 

Mae'r ffactorau gostyngiad yn sgil ymddeol yn gynnar yn cael eu pennu gan y llywodraeth a gallant amrywio o bryd i'w gilydd. Gallwch weld y ffactorau presennol ar y wefan genedlaethol i aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - www.lgpsmember.org/more/reductions.php 

Mae rhagor o wybodaeth am dderbyn eich buddion gohiriedig ar gael ar wefan genedlaethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol -www.lgpsmember.org/arl/already-left-when.php

Newidiadau i fuddion goroeswyr ar gyfer gwyr/gwragedd a phartneriaid sifil o'r un rhyw

Mae newid wedi'i wneud i reolau'r cynllun fel bod buddion goroeswr sy'n daladwy i ŵr/gwraig neu bartner sifil o'r un rhyw yn gyfartal â'r rheiny a delir i wraig weddw aelod gwrywaidd. 

Pam mae'r newid wedi'i wneud?

Mae'r newid wedi'i wneud o ganlyniad i ddyfarniad y Goruchaf Lys (Walker yn erbyn Innopsec) a gafodd fod gan ŵr Mr Walker hawl i'r un buddion a'r rheiny a fyddai wedi cael eu talu pe bai Mr Walker wedi gadael gwraig weddw mewn priodas o'r ddau ryw. 

Pam mae hyn yn berthnasol i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?

Mae'r llywodraeth yn credu mai goblygiad y dyfarniad hwn i holl gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yw y dylai partneriaid sifil sy'n goroesi neu wŷr/gwragedd o'r un rhyw sy'n goroesi gael buddion sy'n gyfartal â'r rheiny a fyddai'n cael eu gadael i wraig weddw aelod gwrywaidd.  

Pryd mae'r newid yn dod i rym?

Bydd y newid yn cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad pan gyflwynwyd partneriaethau sifil a phriodasau o'r un rhyw, sef 5 Rhagfyr 2005 yn achos partneriaethau sifil a 13 Mawrth 2014 yn achos priodasau o'r un rhyw.

Mae hyn yn golygu, os yw aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi marw gan adael partner sifil neu ŵr/gwraig o'r un rhyw sy'n goroesi, y bydd angen adolygu'r pensiwn sy'n cael ei dalu i'r goroeswr a thalu unrhyw symiau ychwanegol, lle bo hynny'n berthnasol. Rydym wrthi'n adolygu effaith y newid hwn a byddwn yn cysylltu â phartneriaid sifil a gwŷr/gwragedd o'r un rhyw yr effeithir arnynt maes o law.

Rhoddir ystyriaeth i'r newid yn awtomatig mewn perthynas â buddion goroeswyr a delir i bartneriaid sifil a gwŷr/gwragedd o'r un rhyw yn y dyfodol.

Taliadau Ymadael Prudential - Diweddariad Rhagfyr 2018

Rydym wedi cael gwybod bod Prudential yn newid eu polisi ar newidiadau ymadael gan ddod i rym ar 3 Rhagfyr 2018, o’r dyddiad hwnnw ymlaen -      

Bydd y ffi ymadael 1% bresennol ar gyfer aelodau sy'n cael mynediad at eu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol o fewn 3 blynedd o'u cyfraniad cyntaf yn dod i ben o 3 Rhagfyr 2018.  Bydd y ffioedd ymadael felly yn dod i ben ym mhob achos.

Cronfa Fuddsoddi Cymru Gyfan 

Cyflwynwyd cynnig Cronfa Fuddsoddi Cymru Gyfan i’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf 2016. Yn dilyn hynny, bu dirprwyaeth o gronfeydd CPLlL Cymru yn cyfarfod â’r Gweinidog ar 16 Tachwedd 2016 lle trafodwyd y cynnig a chynnydd y gronfa hyd yn hyn. 

Cymeradwyodd y Gweinidog Gronfa Fuddsoddi Cymru Gyfan yn ffurfiol ar 23 Tachwedd 2016. Ysgrifennodd Marcus Jones AS:

"the Welsh funds have a long history of cooperation, and are working together successfully to develop the all Wales pool. I congratulate you on the exceptionally low fee for the passive equities portfolio of all Welsh funds which you have already secured. I was also glad to note your ambition to increase infrastructure investment.  Given your strong partnership, and the special position of Wales...... I am therefore pleased to confirm that I am content for you to proceed as set out in your final proposal."

Mae swyddogion a chadeiryddion y cronfeydd pensiwn yn gweithio tuag at sefydlu Dull o Fuddsoddi ar y Cyd erbyn y dyddiad targed, sef1 Ebrill 2018.

I weld llythyr diweddaraf y Gweinidog, cliciwch yma

Cynlluniau Aberthu Cyflog

Mae rhai cyflogwyr yn cyflwyno nifer o fuddion staff a all effeithio ar eich Buddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – mae Taflen Ffeithiau sy’n amlinellu effaith y cynlluniau hyn i’w gweld trwy glicio yma

Newidiadau i System Bensiwn y Wladwriaeth

DIWEDDARIAD: Edrychwch ar ein cylchlythyr diweddaraf ynglŷn â Newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth trwy glicio yma.

Efallai y bydd canllaw’r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich datganiad pensiwn y wladwriaeth yn ddefnyddiol, gellir ei weld trwy glicio yma.

Newidiadau Ebrill 2015 i Reoliadau CPLlL

Gwnaed diwygiadau i Reoliadau CPLlL 2013 gan ddod i rym ym mis Ebrill 2015. Esbonnir y rhain trwy glicio yma i weld y ffeithlen CLlL.

Bwrdd Pensiwn Lleol

Yn unol â Deddf Pensiynau’r Sector Cyhoeddus 2013 mae’r Gronfa wedi sefydlu Bwrdd Pensiwn Lleol a fydd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o lywodraethu a chydymffurfiaeth y gronfa. Cynhaliwyd eu cyfarfod cyntaf ar 15 Gorffennaf 2015. Mae rhagor o fanylion am y Bwrdd Lleol a Chofnodion Cyfarfodydd i’w gweld yn yr adran ar Lywodraethu.

Rhyddid a Dewis

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ar 6 Ebrill 2015 sy’n caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran sut gall cynilion pensiwn cyfraniadau diffiniedig (CD) e.e. pensiynau personol, ddechrau talu unwaith y bydd rhywun yn cyrraedd yr oedran pensiwn isaf, sef 55 oed. Cyn hyn, roedd yn rhaid i’r rhan fwyaf o gynilwyr pensiwn ddefnyddio’r gronfa roedden nhw wedi’i harbed i brynu blwydd-dal i roi incwm iddynt. Fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu i aelodau gymryd eu holl gronfa fel cyfandaliad (rhan yn ddi-dreth a rhan yn drethadwy). Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gynllun Buddion Diffiniedig ac felly nid yw’r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i’ch buddion pensiwn.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi rhoi canllaw i weithwyr ar y CPLlL y gellir ei weld yma.

Mae gan aelodau sydd â chronfa GCY gynilion pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig, fodd bynnag nid yw’r CPLlL yn caniatáu i’r ddeddfwriaeth newydd gael ei defnyddio, felly pe bai aelod eisiau defnyddio’r ddeddfwriaeth newydd i gael mynediad i’w hawliau pensiwn mae angen iddynt drosglwyddo eu cronfa i drefniant CD arall sy’n cynnig buddion hyblyg.

Oherwydd y newidiadau mae’r Llywodraeth wedi datblygu gwasanaeth cyfarwyddyd diduedd am ddim o’r enw Pension Wise - y gellir ei weld yma. https://www.pensionwise.gov.uk/cy

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol wedi cynhyrchu canllaw hefyd y gellir ei weld yma

https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/articles/canllawiau-printiedig-am-ddim

Ar yr amod bod rhai meini prawf yn cael eu bodloni efallai y gallwch drosglwyddo’ch buddion allan o’r CPLlL i gynllun y mae’r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol iddo. Fodd bynnag,
yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid i chi gael cyngor ariannol annibynnol a bydd y cynllun yn gofyn i chi roi tystiolaeth eich bod chi wedi gwneud hyn. Os oes yna gost am y cyngor yna cyfrifoldeb yr aelod yw talu’r gost hon.

Os ydych chi’n ystyried trosglwyddo allan o’r CPLlL, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymdrin â chwmni dibynadwy gan fod disgwyl i’r ddeddfwriaeth hon arwain at gynnydd yn nifer y sgamiau pensiwn. I gael gwybod sut i weld os ydych mewn perygl o wynebu sgâm, darllenwch y wybodaeth ar Wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau http://www.thepensionsregulator.gov.uk/individuals/dangers-of-pension-scams.aspx.

Rhaid i bob cynghorydd ariannol dilys gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol sy’n cadw cofrestr o’r holl gwmnïau, unigolion a chyrff eraill a reoleiddir ganddo. Gallwch wirio Cofrestr y Gwasanaethau Ariannol yma https://www.fca.org.uk/firms/financial-services-register

Rhyddhad Pensiwn

Ydych chi’n ystyried trosglwyddo’ch buddion i ddarparwr pensiwn arall?

Mae rhai cwmnïau’n cysylltu ag aelodau’r cynllun pensiwn ac yn honni y gallant eich helpu i gael gafael ar eich pensiwn yn gynnar - gallai hyn fod trwy neges destun, hysbysebion ar y rhyngrwyd neu drwy’r post. Yn y rhan fwyaf o achosion, y cynharaf y gallwch ddechrau cael eich pensiwn wedi’i dalu yw 55 oed. O wneud yn gynharach gallech fod yn agored i daliadau treth uchel. Mae’r cwmnïau hyn yn tueddu i godi ffioedd uchel am ymdrin â’r trosglwyddiad hefyd. Gan amlaf nid yw’r bobl sy’n trosglwyddo’n cael gwybod am y taliadau treth na’r ffioedd hyn.

Gall yr arwyddion posib bod cwmnïau’n rhai twyllodrus gynnwys:

  • rhywun yn gofyn i chi drosglwyddo eich buddion pensiwn mewn neges destun neu ar y ffôn
  • rhywun yn dweud wrthych y gallwch chi gael gafael ar eich buddion pensiwn cyn troi’n 55 oed
  • rhywun yn dweud wrthych y bydd eich arian yn cael ei gadw dramor
  • cael eich annog i lenwi ffurflenni’n gyflym neu ofyn i chi gysylltu â’ch darparwr pensiwn presennol i gyflymu’r broses drosglwyddo
  • peidio derbyn dogfennau pan fyddwch yn gofyn amdanynt

Os oes rhywun wedi cysylltu â chi a bod gennych unrhyw amheuon ynghylch pwy rydych chi’n ymdrin â nhw, cysylltwch â desg gymorth pensiynau, www.thepensionsregulator.gov.uk neu’r Action Fraud Help-line ar 0300 123 2040.

Cofrestru Awtomatig

Cyflwynodd y Llywodraeth ddarpariaeth bensiwn orfodol ar gyfer gweithwyr y DU, gan ddechrau gyda chyflogwyr mwy, ym mis Hydref 2012. Gelwir y ddarpariaeth bensiwn orfodol hon yn Gofrestru Awtomatig (CA) a disgwylir y bydd y gwaith o gyflwyno’r ddarpariaeth yn cymryd pedair blynedd. Am fanylion llawn gweler yr adran ar gofrestru awtomatig.