Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

Mae'r datganiad hygyrchedd yma'n berthnasol i www.rctpensions.org.uk

Mae'r wefan yma'n cael ei rheoli gan Gronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan yma. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylai bod modd i chi wneud y canlynol:

  • chwyddo hyd at 300% heb i ymylon y testun ddiflannu o'r sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais/lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gyda chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan yma?

Rydyn ni'n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan yma'n gwbl hygyrch:

  • Does dim modd addasu uchder llinellau na bylchau testun
  • Dydy'r rhan fwyaf o'r hen fformatau PDF ddim yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin
  • Mae'n anodd llywio rhai o'n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Adborth a manylion cyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan yma mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Bydd angen i ni wybod:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • Eich enw
  • Cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post
  • y fformat sydd ei angen arnoch chi

Byddwn ni'n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan yma

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan yma. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen yma neu os ydych chi'n meddwl nad ydyn ni'n bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy:

Gweithdrefn Gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n fodlon ar sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar gyfer Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu alw heibio wyneb-yn-wyneb

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad, bydd modd inni drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer chi. Y rhif yw 01443 680611.

Wrth drefnu eich apwyntiad, byddwn ni'n gofyn a oes gyda chi unrhyw ofynion arbennig.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma

Mae Pensiynau RhCT wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae'r wefan yma'n cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r cynnwys nad yw'n hygyrch wedi'i nodi isod gyda manylion:

Diffyg cydymffurfiad â rheoliadau hygyrchedd

ProblemSafonDigwyddiadau

Trwsio manylion adnabod dyblyg

Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) A 4.1.1

2

Sicrhau bod penawdau PDF yn dilyn trefn resymegol

WCAG A 1.3.1

1

Sicrhau bod y penawdau'n cynnwys testun

WCAG A 1.3.1

2

Sicrhau y gall darllenwyr sgrin ddefnyddio dolenni

WCAG A 4.1.2

2

Sicrhau bod modd i ddarllenwyr sgrin ddarllen ffeiliau PDF

WCAG A 1.1.1

3

Nodi pwrpas meysydd yn rhaglennol

WCAG AA 1.3.5

4

Ychwanegu cwmpas i benawdau tabl

WCAG A 1.3.1

18

Ychwanegu penawdau at dablau

WCAG A 1.3.1

7

Sicrhau bod ffeiliau PDF hir yn defnyddio nodau tudalen i gynorthwyo llywio

WCAG AA 2.4.5

11

Nodi llywio fel rhestrau

WCAG A 1.3.1

6

Osgoi defnyddio'r un testun cyswllt ar gyfer gwahanol gyrchfannau

WCAG A 2.4.4

66

Ymdrin â ffeiliau PDF sydd heb eu tagio

WCAG A 1.3.1

33

Sicrhau bod ffeiliau PDF yn nodi iaith ddiofyn

WCAG A 3.1.1

38

Gwella teitlau PDF gwan

WCAG A 2.4.2

87

Nodi penawdau ar gyfer pob PDF

WCAG A 1.3.1

80

Rydyn ni'n bwriadu nodi a thrwsio problemau cyn gynted â phosibl. Bydd amserlenni ar gyfer trwsio pob problem yn cael ei ychwanegu'n fuan.

Ffeiliau PDF a dogfennau sydd ddim yn HTML

Mae nifer o ddogfennau heb fod yn hygyrch mewn sawl ffordd, gan gynnwys elfennau coll o ran dewisiadau testun amgen a strwythurau dogfennau.

Rydyn ni'n bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Rydyn ni'n nodi lle ar y dudalen y dylai gwybodaeth mewn PDF fod ar y wefan yma. Byddwn ni'n trwsio'r rhain erbyn 31/03/2022.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dyw'r rheoliadau hygyrchedd ddim yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. 

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni'n bwriadu nodi a thrwsio problemau cyn gynted â phosibl.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd yma

Cafodd y datganiad yma'i baratoi ar 14/10/2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 14/10/2021.

Cafodd y wefan yma ei phrofi ddiwethaf ar 12/10/2021. Caiff y prawf ei gynnal gan Staff RhCT gan ddefnyddio'r Offeryn Hygyrchedd 'Silktide' a phrofi â llaw.