Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Trosglwyddo buddion i ddarparwr arall

Os byddwch chi'n ymuno â Chynllun Pensiwn Cyflogwr arall

Efallai bydd hi'n bosibl i chi drosglwyddo'r buddion rydych chi wedi'u cronni yn y cynllun i gynllun pensiwn galwedigaethol arall – bydd eisiau ichi gadarnhau gyda gweinyddwyr y cynllun newydd a fyddan nhw'n derbyn 'trosglwyddo i mewn'.  Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau trosglwyddo gwerth eich cronfa.  Da o beth fyddai i chi gael cyngor ymgynghorydd ariannol annibynnol cyn trosglwyddo er mwyn sicrhau bod gwneud hynny o fudd i chi.

Os ydych chi eisiau symud eich buddion pensiwn i ddarparwr arall

Efallai'i bod hi'n bosibl i chi drosglwyddo'ch buddion i ddarparwr pensiwn arall.  Eto, da o beth fyddai siarad ag ymgynghorydd ariannol annibynnol, sydd wedi'i gofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, drwy edrych ar y gofrestr o ymgynghorwyr ar ei wefan https://www.fca.org.uk/firms/financial-services-register.

Mae cynnydd yn nifer yr achosion o dwyll pensiynau.  Caiff aelodau'u hannog i drosglwyddo'u buddion allan o'r cynllun cyn 55 oed, gan fod yn agored i daliadau treth eithafol.  Neu, mae'u harian yn cael ei golli'n gyfan gwbl.

Daeth y ddeddfwriaeth newydd i rym ym mis Ebrill 2015 sydd wedi newid y ffordd y mae aelodau mewn Cynlluniau Cyfraniad Diffiniedig yn cael manteisio ar eu buddion, ac mae hyn wedi cyfrannu at y cynnydd mewn achosion o dwyll pensiynau.  Darllenwch yr adran Rhyddid a Dewis isod.

Mae'r Rheolydd Pensiwn wedi cyflwyno gwybodaeth fanwl am dwyll pensiynau, ac mae modd ei darllen yma - http://www.thepensionsregulator.gov.uk/individuals/dangers-of-pension-scams.aspx

Mae arwyddion o gwmnïau twyllodrus yn cynnwys

  • y cwmni yn cysylltu â chi ynglŷn â throsglwyddo'ch buddion pensiwn drwy neges destun neu ffôn
  • cael gwybodaeth eich bod chi'n cael tynnu ar eich buddion pensiwn cyn 55 oed
  • cael gwybodaeth y bydd eich arian yn cael ei gadw dramor
  • cael eich annog i lenwi ffurflenni'n gyflym neu gael eich gofyn i gysylltu â'ch darparwr pensiwn presennol i gyflymu'r broses drosglwyddo
  • heb dderbyn eich dogfennau, a chithau wedi gofyn amdanyn nhw

Os ydych chi o'r farn eich bod chi'n destun twyll pensiwn, ffoniwch y Gwasanaeth Ymgynghori ar Bensiynau (TPAS) ar 0300 123 1047 cyn bwrw'ch llofnod.  Os ydych chi wedi derbyn cynnig yn barod, rhowch wybod i'r sefydliad Action Fraud ar 0300 123 2040. 

Peidiwch â chael eich twyllo - os ydych chi'n ystyried trosglwyddo'ch buddion pensiwn allan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gwnewch yn siŵr bod y cwmnïau / ymgynghorwyr sy'n delio â nhw yn gyfreithlon.

Rhyddid a Dewis

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ar 6 Ebrill 2015 sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd ynghylch sut mae cynilion pensiwn cyfraniad diffiniedig, e.e. pensiynau personol, i'w talu ar gyrraedd 55 oed, isafswm oedran pensiwn.   Yn y gorffennol, roedd rhaid i gynilwyr pensiwn ddefnyddio'r gronfa roedden nhw wedi'i chronni er mwyn prynu blwydd-dâl ar gyfer incwm.  Serch hynny, mae'r ddeddfwriaeth newydd yn rhoi hawl i aelodau gymryd y cyfan o'u cronfa yn gyfandaliad (rhan ohoni'n ddi-dreth a rhan i'w threthi).  Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) yn gynllun Buddion Diffiniedig, ac felly dyw'r ddeddfwriaeth newydd ddim yn berthnasol i'ch buddion pensiwn. 

Bydd cynilion pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig gyda chi os oes cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol gyda chi.  Serch hynny, dyw Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) ddim yn caniatáu i'r ddeddfwriaeth newydd gael ei defnyddio.  Felly pe baech chi eisiau defnyddio'r ddeddfwriaeth newydd i fanteisio ar eich hawliau pensiwn, byddai eisiau trosglwyddo'ch cronfa i drefniant Cyfraniadau Diffiniedig arall sy'n cynnig buddion hyblyg.

Yng ngoleuni'r newidiadau, mae'r Llywodraeth wedi datblygu gwasanaeth cyngor am ddim a diduedd o'r enw Pension Wise - dyma'r wefan.  https://www.pensionwise.gov.uk/

Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol hefyd wedi paratoi llyfryn ar ei wefan –  https://www.moneyadviceservice.org.uk/en/articles/free-printed-guides#pensions

Ar amod bodloni meini prawf penodol, efallai y cewch chi drosglwyddo'ch buddion allan o'r LGPS i gynllun sydd ddim yn dod o dan y ddeddfwriaeth newydd.  Er gwaethaf hynny, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd raid i chi gael cyngor ariannol annibynnol, a bydd y cynllun yn gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth eich bod chi wedi gwneud hynny.  Os bydd rhaid i chi dalu am y cyngor yma, chi sy'n talu amdano.

Os ydych chi'n ystyried gadael y LGPS, gofalwch eich bod chi'n delio â chwmni ac iddo enw da, gan mai'r disgwyl yw bydd y ddeddfwriaeth yma'n esgor ar gynnydd yn nifer yr achosion o dwyll yn ymwneud â phensiynau.  Gwybodaeth am sut i sylwi os ydych chi mewn perygl o gael eich twyllo – gwybodaeth ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau http://www.thepensionsregulator.gov.uk/individuals/dangers-of-pension-scams.aspx.

Rhaid i'r holl ymgynghorwyr ariannol gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.  Mae'r Awdurdod yn cadw cofrestr o'r holl gwmnïau, unigolion a chyrff eraill maen nhw'n eu rheoleiddio.  Mae modd ichi edrych ar Gofrestr y Gwasanaethau Ariannol yma –  https://www.fca.org.uk/firms/financial-services-register