Aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
Mae’r CPLlL yn rhan werthfawr o’r pecyn cyflog a buddion i weithwyr llywodraeth leol neu rai sy’n gweithio i gyflogwyr eraill sy’n rhan o’r Cynllun, ac yn aml, caiff ei ystyried yn un o fanteision ariannol mwyaf gwerthfawr y swydd.
Mae Cyflogwyr Llywodraeth Leol yn darparu’r wefan yma ar ran gweinyddwyr y gronfa bensiwn a chyflogwyr llywodraeth leol.
Dolen gyswllt i Aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Sefydliad dielw annibynnol yw’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS) sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am ddim ar gynlluniau pensiwn o bob math, gan gynnwys pensiynau cwmni, personol a rhanddeiliaid.
Dolen gyswllt i'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Diduedd
Ydych chi'n chwilio am gyngor ariannol annibynnol, morgais, cyfrifo neu gyngor cyfreithiol? Rhowch eich côd post a gweld manylion cynghorwyr cymwys y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw.
Mae'r wefan yn eich helpu i ddeall y gwahanol fathau o gyngor proffesiynol sydd ar gael, ac mae'n darparu canllawiau, adnoddau a chyfrifianellau defnyddiol.
Dolen gyswllt i 'Diduedd'
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
Yn cynnwys newyddion a gwybodaeth am faterion treth ac yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
Dolen gyswllt i 'Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi'