Mae Fy Mhensiwn Ar-lein yn galluogi-
- Gall aelodau gweithredol weld gwerth cyfredol eu buddion pensiwn a gallant weld amcangyfrifon o’r buddion pensiwn a fydd yn cael eu talu ar ddyddiadau ymddeol o’u dewis.
- Gall aelodau sy’n bensiynwyr weld slipiau cyflog a gwybodaeth P60.
- Gall aelodau gohiriedig weld gwerth cyfredol eu pensiwn gohiriedig a gallant weld amcangyfrifon o’r buddion pensiwn a fydd yn cael eu talu ar ddyddiadau ymddeol o’u dewis.
- Gall pawb ddiweddaru eu manylion personol drwy’r cyfleuster.
Er mwyn gweld tudalen fewngofnodi Fy Mhensiwn Ar-lein, CLICIWCH YMA.
Noder-
- Eich cyfrifoldeb chi yw peidio â datgelu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair i unrhyw un. Os ydych chi’n meddwl bod eich manylion mewngofnodi gan rywun arall, cysylltwch â Desg Gymorth Pensiynau ar 01443 680611.
- Mae Mynediad heb ganiatâd i wasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein yn torri amodau Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
- Bydd unrhyw newidiadau a wneir i’ch manylion neu enwebiadau grant marwolaeth yn cael eu diweddaru ar unwaith felly gwnewch yn siŵr eu bod yn gywir.
- Amcangyfrifon yn unig yw unrhyw gyfrifiadau a wneir drwy Fy Mhensiwn Ar-lein ac nid ydynt yn rhoi unrhyw hawliau statudol. Ni ddylid gwneud unrhyw benderfyniadau ariannol ar sail cyfrifiadau a gynhyrchir trwy Fy Mhensiwn Ar-lein.
-
Mae’n bosibl cewch chi drafferth gweld dogfennau os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth ar ddyfais iOS. Rydyn ni’n argymell ichi ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfrifiadur neu liniadur.