Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cynllunio eich Pensiwn

Cyfrifianellau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Mewnol

Gall Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVCs) fod yn un o’r ffyrdd mwyaf treth-effeithlon ac effeithiol i’ch helpu i gynilo digon o arian i ariannu’r ffordd o fyw rydych chi ei heisiau ar ôl ymddeol.

Mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn ffordd wych o helpu i bontio diffygion mewn incwm y gallech chi eu hwynebu ar ôl ymddeol, hyd yn oed gyda phensiwn cyflog terfynol. Gallan nhw eich helpu i ddal i fyny os ymunoch chi â chynllun pensiwn eich cyflogwr yn hwyr, os ydych chi'n bwriadu ymddeol yn gynnar neu rydych chi, yn syml, eisiau byw'n fwy cyfforddus ar ôl ymddeol.

Dyma ragor o wybodaeth yn uniongyrchol gan ein darparwr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Mewnol, Prudential

Defnyddio Cyfrifiannell AVC Prudential

Cyfrifiannell Rhagweld Pensiynau

Mae'r gyfraith wedi newid yn ddiweddar ar bensiwn y Wladwriaeth a bu newid yn y ffordd y mae modd i rai pobl gael gafael ar y wybodaeth yma.

Amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth

Cyfrifiannell Oedran Ymddeol y Wladwriaeth

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw'r oedran cynharaf y gallwch chi gael eich Pensiwn y Wladwriaeth. Rhagor o wybodaeth am y newidiadau diweddaraf i oedran Pensiwn y Wladwriaeth.