Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pensiwn y Wladwriaeth

Newidiadau i System Bensiwn y Wladwriaeth

Mae system Pensiwn y Wladwriaeth yn newid ym mis Ebrill 2016. Gallwch ddarllen mwy am y newidiadau trwy glicio yma neu drwy edrych ar wefan Llywodraeth y DU https://www.gov.uk/new-state-pension/overview. Gan fod y system yn newid bydd contractio allan yn dod i ben hefyd a fydd yn golygu y bydd y rhan fwyaf o weithwyr a’u cyflogwyr yn talu mwy o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2016 ymlaen. Gallwch ddarllen mwy am gontractio allan trwy glicio yma.

Gallwch glicio yma i weld y Cylchlythyr Cymru Gyfan a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth Ar-lein?

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar y gorwel? Cadwch reolaeth yn eich dwylo chi drwy hawlio Pensiwn y Wladwriaeth Ar-lein drwy GOV.UK.

Gall holl drigolion y DU hawlio eu pensiwn ar-lein; dim ond 20 munud mae’n gymryd i’w gwblhau ac mae ar gael 24/7. Mae’n wasanaeth diogel a hawdd ei ddefnyddio gyda chymorth ar-lein bob cam o’r ffordd. Yn ogystal â hynny, does dim rhaid cwblhau hawliad ar-lein i gyd ar unwaith. Os nad yw popeth sydd ei angen arnoch wrth law yn gyfleus, dim ond arbed eich cais ar-lein sydd raid a dychwelyd ato cyn pen 30 diwrnod. Gallwch arbed ac argraffu copi ar gyfer eich cofnodion eich hun hefyd.

Yn ogystal, gallwch hawlio Pensiwn newydd y Wladwriaeth drwy’r gwasanaeth ar-lein.

I ddysgu mwy ewch i www.gov.uk/claim-state-pension-online

Efallai y bydd canllaw’r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich datganiad pensiwn y wladwriaeth yn ddefnyddiol hefyd. Gallwch ei weld drwy glicio yma