Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Beth sydd angen i mi'i wneud?

Os ydych chi'n gymwys i ymuno â'r cynllun o'ch diwrnod cyntaf o gyflogaeth, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru yn awtomatig yn y cynllun pensiwn ac yn anfon pecyn croeso i chi sy'n cynnwys ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi.

Bydd gofyn i chi roi'r canlynol:

  • Manylion unrhyw hawliau eraill sydd gyda chi yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol oherwydd y bydd y rhain yn cael eu cydgrynhoi'n awtomatig oni bai eich bod chi'n dewis eu cadw ar wahân. 
  • Manylion unrhyw gynlluniau gwasanaeth cyhoeddus rydych chi wedi bod yn aelod ohonyn nhw, er enghraifft, gweision sifil, y farnwriaeth, y lluoedd arfog, unrhyw gynllun yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban sy'n cynnwys gweithwyr llywodraeth leol, neu athrawon, neu weithwyr gwasanaeth iechyd, neu weithwyr tân ac achub neu aelodau o'r heddluoedd, neu aelodaeth o gynllun pensiwn corff cyhoeddus newydd.
  • Gwybodaeth sy'n ymwneud ag unrhyw bensiynau blaenorol y gallech fod wedi'u cronni mewn swyddi eraill, ac a ydych chi am ymchwilio i'r posibilrwydd o drosglwyddo'r buddion yma i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Rhaid gwneud y cais i drosglwyddo eich buddion cyn pen 12 mis i ymuno â'r cynllun, er bod gan eich cyflogwr y disgresiwn i ymestyn y cyfnod yma.

Pe hoffech chi ymuno â'r cynllun yma nawr cliciwch yma i gael Ffurflen Optio i Mewn