Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Rhyddid a Dewis

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ar 6 Ebrill 2015 sy’n caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran sut gall cynilion pensiwn cyfraniadau diffiniedig (CD) e.e. pensiynau personol, ddechrau talu unwaith y bydd rhywun yn cyrraedd yr oedran pensiwn isaf, sef 55 oed. Cyn hyn, roedd yn rhaid i’r rhan fwyaf o gynilwyr pensiwn ddefnyddio’r gronfa roedden nhw wedi’i harbed i brynu blwydd-dal i roi incwm iddynt. Fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu i aelodau gymryd eu holl gronfa fel cyfandaliad (rhan yn ddi-dreth a rhan yn drethadwy). Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gynllun Buddion Diffiniedig ac felly nid yw’r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol i’ch buddion pensiwn.

Os ydych chi am fanteisio ar y ddeddfwriaeth newydd, efallai y bydd yn bosib i chi drosglwyddo’r buddion yr ydych wedi’u cronni yn y CPLlL i ddarparwr pensiwn arall.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi rhoi canllaw i weithwyr ar y CPLlL y gellir ei weld yma.

Oherwydd y newidiadau, mae’r Llywodraeth wedi datblygu gwasanaeth cyfarwyddyd diduedd am ddim o’r enw Pension Wise - y gellir ei weld yma.

https://www.pensionwise.gov.uk/cy

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol wedi cynhyrchu canllaw hefyd y gellir ei weld yma

https://www.moneyadviceservice.org.uk/cy/articles/canllawiau-printiedig-am-ddim

Peidiwch â chael eich twyllo - os ydych chi’n ystyried trosglwyddo’ch buddion pensiwn allan o’r CPLlL, gwnewch yn siŵr bod y cwmnïau/cynghorwyr sy’n ymdrin â’ch pensiwn yn gyfreithlon.

Mae’r newid mewn deddfwriaeth wedi arwain at gynnydd mewn sgamiau pensiwn lle mae cwmnïau’n eich annog i drosglwyddo’ch buddion allan o’r cynllun fel y gallant gael mynediad i’ch cynilion pensiwn.

Os ydych chi’n ystyried trosglwyddo o’r cynllun, darllenwch y dogfennau canlynol er mwyn i chi ddeall y manteision sydd gan y CPLlL i’w cynnig yn llawn a sut i fod yn effro i unrhyw sgamiau posib.

Mae’r newid hwn i ddeddfwriaeth yn golygu, cyn i ni allu prosesu trosglwyddiad buddion allan, mae’n rhaid i ni ofyn a oes gennych unrhyw fuddion eraill yn y CPLlL yn ogystal â’r rhai sydd yng Nghronfa Bensiwn RhCT, gan fod rhaid i ni benderfynu a yw trosglwyddiad yn cael ei ganiatáu ai peidio o dan Reoliadau’r Cynllun. Os caniateir trosglwyddo, yna, mewn rhai amgylchiadau, mae’n rhaid i ni gael tystiolaeth eich bod wedi cael cyngor gan gynghorydd annibynnol priodol sydd wedi’i gofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) fel rhywun a all roi cyngor ar drosglwyddo buddion wedi’u diogelu. Yr aelod fydd yn talu cost cael y cyngor hwn.