Bydd sgam pensiwn – pan fydd rhywun yn ceisio eich twyllo chi o'ch arian pensiwn – fel arfer yn dechrau pan fydd rhywun yn cysylltu â chi yn annisgwyl ynglŷn â:
- buddsoddiad neu gyfle busnes arall nad ydych chi wedi sôn amdano o'r blaen
- cymryd allan eich arian pensiwn cyn eich bod chi'n 55 oed
- y ffyrdd y gallwch chi fuddsoddi eich arian pensiwn
Os bydd rhywun yn cysylltu â chi yn annisgwyl ac yn dweud y gallen nhw eich helpu chi i gael gafael ar eich pensiwn cyn eich bod chi'n 55 oed, mae'n debygol o fod yn sgam.
Efallai y byddech chi'n cael cynnig deniadol i fuddsoddi eich arian pensiwn, er enghraifft, ei fuddsoddi mewn gwesty newydd sy'n cael ei adeiladu mewn lleoliad dieithr. Mae'r rhan fwyaf o'r cynigion yma yn rhai ffug, ond gallen nhw ymddangos yn rhai argyhoeddiadol iawn. Eu nod nhw yw eich cael chi i roi eich arian yn eich pot pensiwn a throsglwyddo'r arian.
Unwaith y byddwch chi'n trosglwyddo eich arian mewn i sgam, mae hi'n rhy hwyr. Gallech chi golli eich arian pensiwn i gyd, yn ogystal ag wynebu treth hyd at 55% neu ffioedd ychwanegol mawr eraill.
Sut i wybod a yw'n sgam?
Cadwch lygad barcud os yw unigolyn neu gwmni yn:
- cysylltu â chi yn annisgwyl am eich arian pensiwn dros y ffôn neu neges destun, drwy ymweld â chi yn bersonol, neu mewn ffyrdd eraill
- dweud y gallech chi gael gafael ar eich arian pensiwn cyn eich bod chi'n 55 oed ac y gallen nhw eich helpu chi gyda hynny
- eich annog chi i dynnu swm mawr o arian, neu eich holl arian pensiwn, allan o'ch cyfrif ar un adeg a gadael iddyn nhw ei fuddsoddi drosoch chi
- gofyn i chi drosglwyddo arian yn sydyn, gan hyd yn oed anfon dogfennau atoch chi drwy negesydd - peidiwch byth â gwneud penderfyniadau ynglŷn â'ch pensiwn ar frys
- defnyddio geiriau fel 'rhyddhad o'ch pensiwn', 'benthyciad', 'dihangfa', 'adolygiad o bensiwn am ddim' neu 'buddsoddiad untro'
- cynnig buddsoddiad i chi sy'n cael ei ddisgrifio fel un 'unigryw', 'tramor', 'ecogyfeillgar', 'moesegol' neu mewn diwydiant 'newydd'
Sut i amddiffyn eich hun
Gwiriwch a yw'r person neu gwmni sy'n cysylltu â chi wedi'i restru ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol neu ffoniwch yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar 0800 111 6768. Os ydych chi'n ffonio'r unigolyn neu'r cwmni yn ôl, defnyddiwch y rhif sydd wedi'i nodi ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol.
Mae'n bosibl y bydd rhywun yn cysylltu â chi ac yn honni i fod yn ddarparwr pensiwn, ymgynghorydd ariannol neu yn gweithio i'r Llywodraeth.
Os bydd unrhyw un yn eich ffonio'n ddi-groeso ac yn honni ei fod yn gweithio i'r Llywodraeth ac yn gofyn am eich manylion personol neu ariannol, peidiwch â datgelu eich manylion. Rhowch y ffôn i lawr os oes rhaid.
Os ydych chi wedi cael eich targedu
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi cael eich twyllo am sgam pensiwn, ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu defnyddiwch eu hadnodd riportio ar-lein.
Siaradwch â'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau os oes rhywun wedi cysylltu â chi yn annisgwyl ynglŷn â'ch pensiwn.
Mae Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddiogelu aelodau ein cynllun rhag sgamiau pensiwn. Rydyn ni wedi dangos ein hymrwymiad drwy wneud addewid i ymgyrch sgamiau pensiwn y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR). Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sgamiau pensiwn ar gael yma: http://www.thepensionsregulator.gov.uk/individuals/dangers-of-pension-scams.aspx
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Ffôn: 0300 123 1047
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm