Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwy All Ymuno

Os ydych rhwng 16 a 75 oed, mae gennych gontract cyflogaeth o dri mis neu fwy ac rydych yn gweithio i un o’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yna byddwch chi’n cael eich rhoi yn y cynllun Pensiwn yn awtomatig.

Os oes gennych gontract o lai na thri mis yna gallwch wneud cais i ymuno.

Os ydych wedi dewis optio allan o’r blaen, gallwch ddewis ail-ymuno o  hyd.

Cliciwch yma am ffurflen optio i mewn.

Ym mis Hydref 2012, cyflwynodd y Llywodraeth reoliadau hunan-gofrestru felly mae angen i chi wirio gyda’ch cyflogwr pryd fyddwch chi’n dechrau cyfrannu at y cynllun yn awtomatig. Fodd bynnag, gallwch ddewis ymuno cyn hynny.

I wirio eich bod wedi’ch cynnwys yn y cynllun, sicrhewch fod eich slip cyflog yn dangos bod cyfraniadau pensiwn yn cael eu didynnu.

Ni chaniateir i’r heddlu, ymladdwyr tân ac athrawon ymuno â’r CPLlL gan fod ganddynt eu cynlluniau pensiwn penodol eu hunain.