Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Gadael Cyn Ymddeol

Bydd y buddion y byddwch chi â hawl iddyn nhw wrth adael y cynllun yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch chi ymuno â'r cynllun a hyd yr amser roeddech chi'n rhan o'r cynllun (mae'r gwasanaeth yn cynnwys trosglwyddiadau a chyfnodau eraill o aelodaeth y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol).

Bydd y gronfa yn ysgrifennu atoch chi yn fuan ar ôl i chi adael i gadarnhau eich opsiynau a rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.

Os oes gyda chi gyfanswm o lai na dwy flynedd o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (mae hyn yn cynnwys aelodaeth mewn cronfeydd eraill, nid cronfa Rhondda Cynon Taf yn unig), bydd modd i chi:

  • Dderbyn ad-daliad am eich cyfraniadau sy'n llai na threth a'r gost o'ch ailsefydlu chi i Ail Bensiwn y Wladwriaeth, os yw'n briodol.
  • Trosglwyddo eich buddion i ddarparwr pensiynau arall

Os oes gyda chi gyfanswm o fwy na dwy flynedd o aelodaeth, neu wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r cynllun, bydd modd i chi:

  • Adael eich buddion hyd nes eich bod chi'u heisiau nhw
  • Trosglwyddo eich buddion i ddarparwr pensiynau arall

Eithrio o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Mae modd i chi adael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar unrhyw adeg drwy roi gwybod yn ysgrifenedig i'ch cyflogwr. Mae dewis eithrio o'r cynllun yn dod i rym o ddiwedd y cyfnod talu y gwnaethoch chi roi gwybod amdano, oni bai bod eich hysbysiad yn nodi dyddiad sy'n hwyrach na'r dyddiad y cafodd yr hysbysiad ei wneud. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n trafod eich opsiynau gyda'r Llinell Gymorth Pensiynau cyn eithrio o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Dyma rai pethau y dylech chi eu hystyried:

  • Mae'r gost o fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn llai na rydych chi'n ei feddwl. Os ydych chi'n talu treth, rydych chi'n cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau
  • Mae eich cynllun yn rhoi incwm ymddeoliad sicr i chi yn y dyfodol, yn annibynnol ar brisiau cyfranddaliadau ac amrywiadau yn y farchnad stoc
  • Mae gyda chi'r opsiwn i gyfnewid rhan o'ch pensiwn am rywfaint o arian parod di-dreth ar ôl ymddeol
  • Os ydych chi'n eithrio o'n cynllun, rydych chi'n colli'r budd o'r cyfraniadau sylweddol a wneir gan eich cyflogwr

Mae'r cynllun yn darparu pecyn rhagorol o fuddion i chi a'ch teulu:

  • Sicrwydd bywyd am ddim o’r eiliad y byddwch chi'n ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae cyfandaliad o werth 3 blynedd o gyflog os byddwch chi'n marw mewn gwasanaeth
  • Pensiynau i'ch gŵr, gwraig, partner sifil cofrestredig neu bartner rydych chi'n cyd-fyw â nhw ac ar gyfer plant cymwys os ydych chi'n marw mewn gwasanaeth neu'n marw ar ôl gadael gyda hawl i'ch pensiwn
  • Mae yswiriant hefyd ar gael os byddwch chi'n ymddeol yn gynnar ar sail afiechyd parhaol, colli swydd neu effeithlonrwydd busnes

Os ydych chi'n dewis eithrio o'r cynllun o fewn 3 mis o ymuno â'r cynllun: 

Byddwch chi'n cael eich trin fel rhywun sydd heb fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ystod y cyfnod yna, ond byddwch chi'n cael eich trin fel rhywun sydd wedi dewis eithrio o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Bydd y cyfraniadau rydych chi wedi'u talu yn cael eu had-dalu i chi gan eich cyflogwr.

Os ydych chi'n dewis eithrio o'r cynllun ar ôl bod yn rhan ohono am fwy na thri mis ond llai na dwy flynedd - byddwch chi'n derbyn ad-daliad o'ch cyfraniadau llai treth a fydd yn cael ei brosesu gan y Gronfa Bensiwn.

Os ydych chi'n eithrio o'r cynllun ar ôl dwy flynedd o wasanaeth, mae gyda chi'r un opsiynau, fel sydd wedi'u nodi yn yr adran 'Gadael cyn ymddeol'. Serch hynny, nodwch yn y rhan fwyaf o achosion, fydd dim modd i chi ddefnyddio'n buddion pensiwn hyd nes i chi adael cyflogaeth.

Mae modd i chi eithrio o'r cynllun gan ddefnyddio'r Ffurflen Eithrio. Dylech chi DDIM cwblhau datganiad eithrio cyn i'ch cyflogaeth ddechrau.

A oes modd i mi ail-ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ddiweddarach?

Os ydych chi'n eithrio o'r cynllun unwaith, mae modd i chi ail-ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar unrhyw adeg.

Efallai yr hoffech chi gael cyngor ariannol annibynnol cyn i chi wneud penderfyniad i eithrio o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Cofiwch, mae cynghorwyr ariannol annibynnol yn argymell ei bod hi’n anodd curo'r gwerth y mae cynlluniau'r Sector Cyhoeddus yn ei gynnig, megis y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.